O gariad at gerddoriaeth werin draddodiadol yr Alban, reggae dub a cherddoriaeth ddawns, gyda’i gilydd bydd An Danssa Dub yn galw ar egni cymunedol a llawen cèilidh a sesiwn system sain.
Daw eu henw o’r Gaeleg am “Ddawns y Dub”. Mae eu sain yn dathlu rhythmau hynafol Gaelaidd ac o Orllewin Affrica a ddylanwadodd ar reggae, a gynhyrchodd yn ei dro, trwy ddiwylliant system sain ac ailgymysgiadau arloesol Dub, gerddoriaeth ddawns fodern. Mae eu sioeau byw a’u recordiadau yn gyfuniad di-dor, syfrdanol o hyn i gyd a mwy.